OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 806 (Cy. 113) (C. 21)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adran 46 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Mae'r adran honno yn ymwneud â Gweinidogion Cymru'n rheoleiddio gweithgaredd amaethyddol anawdurdodedig.
Pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod person yn gwneud (neu'n achosi gwneud) gweithgaredd amaethyddol anawdurdodedig penodol ar dir sydd wedi ei gofrestru fel tir comin / maes y dref neu faes y pentref sy'n ddarostyngedig i hawliau comin, caiff y gweithgaredd amaethyddol anawdurdodedig ei reoleiddio os yw naill ai'n niweidiol i fudd y cyhoedd neu’n niweidiol i fuddiannau'r personau sydd yn meddu ar hawliau naill ai mewn perthynas â'r tir dan sylw, neu’n meddiannu’r tir hwnnw.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 806 (Cy. 113 ) (C. 21)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2012
Gwnaed 9 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r awdurdod gwladol priodol([1]) gan adran 56(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006([2]):
Enwi a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006
(Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaeth sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2012
2. Mae adran 46 (pwerau sy'n ymwneud â gweithgareddau amaethyddol anawdurdodedig) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2012